Amserlen diwygiedig ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach

Mawrth 2018

 

Ar 12 Rhagfyr 2017 cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach.

Yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(ii), cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgorau gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 27 Chwefror 2018.

Ar 12 Chwefror, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Pwyllgor Busnes yn gofyn am estyniad i’r dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad er mwyn gallu rhoi ystyriaeth lawn i’r dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth mewn sesiwn ar y cyd â’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Ar sail hyn, cytunodd y Pwyllgor Busnes i osod adroddiad diwygiedig, gan ddiwygio’r dyddiad cau ar gyfer y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau o 27 Chwefror 2018 i 16 Mawrth 2018.